Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 12 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:20 - 12:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Angela Burns Keith Davies Suzy Davies Rebecca Evans Bethan Jenkins David Rees Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Vaughan Gething, Ddirprwy Weinidog Trechu Tlodi Kate Cassidy, Llywodraeth Cymru Martin Swain, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Gareth Rogers (Ail Clerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Victoria Paris |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.
2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog. Cytunodd i ddarparu nodyn ar y canlynol:
Dechrau’n deg
y gwaith a gyflawnwyd gan yr Athro Edward Melhuish;
rhoi’r rhaglen ar waith, y broses, a rôl Rheolwyr Cyfrif;
nifer y plant sy’n elwa yn sgîl pob un o’r pedair elfen o’r rhaglen (a chanran cyfanswm nifer y rhai sy’n elwa yn sgîl Dechrau’n Deg);
unrhyw wybodaeth arall am gyfrif plant ddwywaith yng
nghyfanswm nifer y plant sy’n elwa yn sgîl
Dechrau’n Deg.
Teuluoedd yn Gyntaf
Y canlyniadau penodol ar gyfer y plant a theuluoedd y bydd y broses o werthuso Teuluoedd yn Gyntaf yn eu mesur;
Pa ddyddiad y bydd y gyfres gyntaf o ddata sy’n mesur tystiolaeth o ran bwrw ymlaen â’r canlyniadau hyn yn cael ei chyhoeddi.
Chwarae
Y cydweithio sy’n digwydd rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd o ran cyfleusterau chwarae.
Cytunodd y Pwyllgor i anfon y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn i gael ymateb ysgrifenedig iddynt.
3 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.
4 Ymchwiliad i ordewdra ymysg plant - Ystyried y prif faterion
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad drafft ei drafod eto yn y cyfarfod ar 5 Mawrth.
5 Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor
5.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
5.2 Adroddiad: Gwerthusiad Cenedlaethol o Dechrau’n Deg: adroddiad effaith